Y Salmau 7:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Duw sydd farnwr cyfiawn,a Duw sy'n dedfrydu bob amser.

12. Yn wir, y mae'r drygionus yn hogi ei gleddyf eto,yn plygu ei fwa ac yn ei wneud yn barod;

13. y mae'n darparu ei arfau marwol,ac yn gwneud ei saethau'n danllyd.

14. Y mae'n feichiog o ddrygioni,yn cenhedlu niwed ac yn geni twyll.

15. Y mae'n cloddio pwll ac yn ei geibio,ac yn syrthio i'r twll a wnaeth.

Y Salmau 7