Y Salmau 40:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Nid wyt yn dymuno aberth ac offrwm—rhoddaist imi glustiau agored—ac nid wyt yn gofyn poethoffrwm ac aberth dros bechod.

7. Felly dywedais, “Dyma fi'n dod;y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf

8. fy mod yn hoffi gwneud ewyllys fy Nuw,a bod dy gyfraith yn fy nghalon.”

9. Bûm yn cyhoeddi cyfiawnder yn y gynulleidfa fawr;nid wyf wedi atal fy ngwefusau,fel y gwyddost, O ARGLWYDD.

10. Ni chuddiais dy gyfiawnder yn fy nghalon,ond dywedais am dy gadernid a'th waredigaeth;ni chelais dy gariad a'th wirioneddrhag y gynulleidfa fawr.

Y Salmau 40