Y Salmau 35:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. O Arglwydd, am ba hyd yr wyt am edrych?Gwared fi rhag eu dinistr,a'm hunig fywyd rhag anffyddwyr.

18. Yna, diolchaf i ti gerbron y gynulleidfa fawr,a'th foliannu gerbron tyrfa gref.

19. Na fydded i'm gelynion twyllodrus lawenychu o'm hachos,nac i'r rhai sy'n fy nghasáu heb achos wincio â'u llygaid.

20. Oherwydd nid ydynt yn sôn am heddwch;ond yn erbyn rhai tawel y wlady maent yn cynllwyn dichellion.

Y Salmau 35