Y Salmau 34:3-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi,a dyrchafwn ei enw gyda'n gilydd.

4. Ceisiais yr ARGLWYDD, ac atebodd fia'm gwaredu o'm holl ofnau.

5. Y mae'r rhai sy'n edrych arno'n gloywi,ac ni ddaw cywilydd i'w hwynebau.

6. Dyma un isel a waeddodd, a'r ARGLWYDD yn ei glywedac yn ei waredu o'i holl gyfyngderau.

7. Gwersylla angel yr ARGLWYDD o amgylch y rhai sy'n ei ofni,ac y mae'n eu gwaredu.

8. Profwch, a gwelwch mai da yw'r ARGLWYDD.Gwyn ei fyd y sawl sy'n llochesu ynddo.

9. Ofnwch yr ARGLWYDD, ei saint ef,oherwydd nid oes eisiau ar y rhai a'i hofna.

10. Y mae'r anffyddwyr yn dioddef angen ac yn newynu,ond nid yw'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn brin o ddim da.

Y Salmau 34