Y Salmau 27:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ac yn awr, fe gyfyd fy mhengoruwch fy ngelynion o'm hamgylch;ac offrymaf finnau yn ei demlaberthau llawn gorfoledd;canaf, canmolaf yr ARGLWYDD.

7. Gwrando arnaf, ARGLWYDD, pan lefaf;bydd drugarog wrthyf, ac ateb fi.

8. Dywedodd fy nghalon amdanat,“Ceisia ei wyneb”;am hynny ceisiaf dy wyneb, O ARGLWYDD.

9. Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf,na throi ymaith dy was mewn dicter,oherwydd buost yn gymorth i mi;paid â'm gwrthod na'm gadael,O Dduw, fy Ngwaredwr.

Y Salmau 27