Y Salmau 25:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Gwna imi wybod dy ffyrdd, O ARGLWYDD,hyffordda fi yn dy lwybrau.

5. Arwain fi yn dy wirionedd a dysg fi,oherwydd ti yw Duw fy iachawdwriaeth;wrthyt ti y bûm yn disgwyl trwy'r dydd.

6. O ARGLWYDD, cofia dy drugaredd a'th ffyddlondeb,oherwydd y maent erioed.

7. Paid â chofio pechodau fy ieuenctid na'm gwrthryfel,ond yn dy gariad cofia fi,er mwyn dy ddaioni, O ARGLWYDD.

8. Y mae'r ARGLWYDD yn dda ac uniawn,am hynny fe ddysg y ffordd i bechaduriaid.

9. Fe arwain y gostyngedig yn yr hyn sy'n iawn,a dysgu ei ffordd i'r gostyngedig.

Y Salmau 25