Y Salmau 146:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. bydd ei anadl yn darfod ac yntau'n dychwelyd i'r ddaear,a'r diwrnod hwnnw derfydd am ei gynlluniau.

5. Gwyn ei fyd y sawl y mae Duw Jacob yn ei gynorthwyo,ac y mae ei obaith yn yr ARGLWYDD ei Dduw,

6. creawdwr nefoedd a daear a'r môr,a'r cyfan sydd ynddynt.Y mae ef yn cadw'n ffyddlon hyd byth,

7. ac yn gwneud barn â'r gorthrymedig;y mae'n rhoi bara i'r newynog.Y mae'r ARGLWYDD yn rhyddhau carcharorion;

8. y mae'r ARGLWYDD yn rhoi golwg i'r deillion,ac yn codi pawb sydd wedi eu darostwng;y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai cyfiawn.

9. Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros y dieithriaid,ac yn cynnal y weddw a'r amddifad;y mae'n difetha ffordd y drygionus.

Y Salmau 146