Y Salmau 109:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Pan fônt hwy'n melltithio, bendithia di;cywilyddier fy ngwrthwynebwyr, a bydded dy was yn llawen.

29. Gwisger fy nghyhuddwyr â gwarth;bydded eu cywilydd fel mantell amdanynt.

30. Clodforaf fi yr ARGLWYDD â'm genau,a moliannaf ef yng ngŵydd cynulleidfa.

31. Oherwydd saif ef ar ddeheulaw'r tlawd,i'w achub rhag ei gyhuddwyr.

Y Salmau 109