Y Salmau 104:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Gan dy gerydd di fe ffoesant,gan sŵn dy daranau ciliasant draw,

8. a chodi dros fynyddoedd a disgyn i'r dyffrynnoedd,i'r lle a bennaist ti iddynt;

9. rhoist iddynt derfyn nad ydynt i'w groesi,rhag iddynt ddychwelyd a gorchuddio'r ddaear.

10. Yr wyt yn gwneud i ffynhonnau darddu mewn hafnau,yn gwneud iddynt lifo rhwng y mynyddoedd;

11. rhônt ddiod i holl fwystfilod y maes,a chaiff asynnod gwyllt eu disychedu;

Y Salmau 104