Y Salmau 10:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Oherwydd ymffrostia'r drygionus yn ei chwant ei hun,ac y mae'r barus yn melltithio ac yn dirmygu'r ARGLWYDD.

4. Nid yw'r drygionus ffroenuchel yn ei geisio,nid oes lle i Dduw yn ei holl gynlluniau.

5. Troellog yw ei ffyrdd bob amser,y mae dy farnau di y tu hwnt iddo;ac am ei holl elynion, fe'u dirmyga.

6. Fe ddywed ynddo'i hun, “Ni'm symudir;trwy'r cenedlaethau ni ddaw niwed ataf.”

Y Salmau 10