Y Pregethwr 9:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Y mae gobaith i'r un a gyfrifir ymysg y byw; oherwydd y mae ci byw yn well na llew marw.

5. Y mae'r byw yn gwybod y byddant farw, ond nid yw'r meirw yn gwybod dim; nid oes bellach wobr iddynt, oherwydd fe ddiflanna'r cof amdanynt.

6. Yn wir y mae eu cariad, a'u casineb a'u cenfigen eisoes wedi darfod, a bellach nid oes iddynt ran yn yr holl bethau a ddigwydd dan yr haul.

7. Dos, bwyta dy fwyd mewn llawenydd, ac yf dy win â chalon lawen, oherwydd y mae Duw eisoes yn fodlon ar dy weithredoedd.

Y Pregethwr 9