Tobit 7:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ar ôl cyrraedd Ecbatana, dywedodd Tobias wrtho, “Asarias, fy mrawd, dos â mi ar f'union at Ragwel ein perthynas.” Daeth ag ef, felly, i dŷ Ragwel, lle cawsant ef yn eistedd wrth borth y cyntedd. Hwy oedd gyntaf â'u cyfarchiad, ac yntau'n ateb, “Croeso cynnes i chwi, frodyr. Y mae'n dda gennyf eich bod wedi cyrraedd yn ddiogel.”

2. Aeth â hwy i mewn i'r tŷ, ac meddai wrth Edna ei wraig, “Onid yw'r gŵr ifanc yma'n debyg i'm perthynas Tobit?”

3. A dyma Edna yn eu holi: “O ble'r ydych chwi'n dod, frodyr?” “Yr ydym ni,” atebasant, “yn perthyn i feibion Nafftali, y rheini sydd mewn caethiwed yn Ninefe.”

Tobit 7