Tobit 2:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ac Esarhadon bellach yn frenin, dychwelais adref a chael Anna fy ngwraig a Tobias fy mab yn ôl. Adeg y Pentecost, ein gŵyl sy'n ŵyl sanctaidd yr Wythnosau, darparwyd cinio ardderchog ar fy nghyfer ac eisteddais i fwyta.

2. Yr oedd y bwrdd wedi ei osod, a danteithion lawer arno ar fy nghyfer, a dywedais wrth Tobias fy mab, “Fy machgen, dos am dro, ac os digwydd iti ddod ar draws rhywun tlawd o blith ein tylwyth, y gaethglud yn Ninefe, ac yntau'n ffyddlon â'i holl galon, tyrd ag ef, ac fe gaiff gydfwyta â mi. A chofia, fy machgen, byddaf yn aros amdanat nes i ti ddod yn ôl.”

Tobit 2