Sechareia 8:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. ‘Oherwydd bydd hau mewn heddwch; rhydd y winwydden ei ffrwyth, y tir ei gynnyrch, a'r nefoedd ei gwlith; rhof yr holl bethau hyn yn feddiant i weddill y bobl hyn.

13. Ac fel y buoch chwi, dŷ Jwda a thŷ Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd, felly y'ch gwaredaf, a byddwch yn fendith. Peidiwch ag ofni, ond cryfhaer eich dwylo.’

14. “Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Fel y bwriedais wneud drwg i chwi pan gythruddodd eich hynafiaid fi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘ac nid edifarheais,

15. felly y bwriadaf eto yn y dyddiau hyn wneud da i Jerwsalem ac i dŷ Jwda; peidiwch ag ofni.

Sechareia 8