Rhufeiniaid 15:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Yn hyn oll fe'i cedwais yn nod i bregethu'r Efengyl yn y mannau hynny yn unig oedd heb glywed sôn am enw Crist, rhag i mi fod yn adeiladu ar sylfaen rhywun arall;

21. fel y mae'n ysgrifenedig:“Bydd y rheini na chyhoeddwyd dim wrthynt amdano yn gweld,a'r rheini na chlywsant ddim amdano yn deall.”

22. Hwn oedd y rhwystr a'm cadwodd cyhyd o amser rhag dod atoch chwi.

23. Ond yn awr, a minnau heb faes cenhadol mwyach yn yr ardaloedd hyn, a'r awydd arnaf ers blynyddoedd lawer i ddod atoch chwi

24. pryd bynnag y byddaf ar fy ffordd i Sbaen, yr wyf yn gobeithio ymweld â chwi wrth fynd trwodd, a chael fy hebrwng gennych ar fy nhaith yno, ar ôl mwynhau eich cwmni am ychydig.

Rhufeiniaid 15