Rhufeiniaid 15:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Y mae Eseia hefyd yn dweud:“Fe ddaw gwreiddyn Jesse,y gŵr sy'n codi i lywodraethu'r Cenhedloedd;arno ef y bydd y Cenhedloedd yn seilio'u gobaith.”

13. A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.

14. Yr wyf fi, o'm rhan fy hun, yn gwbl sicr, fy nghyfeillion, eich bod chwithau yn llawn daioni, yn gyforiog o bob gwybodaeth, ac yn alluog i hyfforddi eich gilydd.

15. Bûm braidd yn hy arnoch mewn mannau yn fy llythyr, wrth geisio deffro eich cof. Ond gwneuthum hyn ar bwys y gorchwyl a roddodd Duw i mi o'i ras,

Rhufeiniaid 15