Numeri 7:82-85 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

82. bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

83. dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Ahira fab Enan.

84. Dyma oedd yr offrwm gan arweinwyr Israel ar gyfer cysegru'r allor ar y dydd yr eneiniwyd hi: deuddeg plât arian, deuddeg cawg arian a deuddeg dysgl aur,

85. a phob plât arian yn pwyso cant tri deg o siclau, pob cawg arian yn pwyso saith deg o siclau, a'r holl lestri arian yn pwyso dwy fil pedwar cant o siclau, yn ôl sicl y cysegr;

Numeri 7