Numeri 7:57-60 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

57. bustach ifanc, hwrdd ac oen gwryw ar gyfer y poethoffrwm;

58. bwch gafr ar gyfer yr aberth dros bechod;

59. dau ych, pum hwrdd, pum bwch a phum oen gwryw ar gyfer aberth yr heddoffrwm. Dyma oedd offrwm Gamaliel fab Pedasur.

60. Ar y nawfed dydd, offrymodd Abidan fab Gideoni, arweinydd pobl Benjamin, ei offrwm yntau:

Numeri 7