Numeri 5:6-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Os bydd gŵr neu wraig yn cyflawni unrhyw drosedd yn erbyn rhywun arall, ac yn anffyddlon i'r ARGLWYDD, yna y mae'n euog,

7. a dylai gyffesu'r trosedd a gyflawnodd; rhaid iddo wneud iawn amdano trwy dalu'n ôl y cyfan, ac ychwanegu ato'r bumed ran, a'u rhoi i'r sawl y troseddodd yn ei erbyn.

8. Os nad oes gan hwnnw berthynas y gellir talu'n ôl iddo am y trosedd, taler ef i'r ARGLWYDD, trwy'r offeiriad, gyda'r hwrdd a ddefnyddir i wneud cymod dros y troseddwr.

Numeri 5