Numeri 33:49-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

49. yr oedd eu gwersyll ar lan yr Iorddonen yn ymestyn o Beth-jesimoth hyd Abel-sittim yng ngwastadedd Moab.

50. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen, a dweud,

51. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Wedi i chwi groesi'r Iorddonen i wlad Canaan,

52. yr ydych i yrru allan o'ch blaen holl drigolion y wlad, a dinistrio eu holl gerrig nadd a'u delwau tawdd, a difa eu holl uchelfeydd;

Numeri 33