Numeri 32:31-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Atebodd tylwyth Gad a thylwyth Reuben, “Fe wnawn fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'th weision.

32. Awn drosodd i wlad Canaan yn arfog o flaen yr ARGLWYDD, a chadwn ein hetifeddiaeth yr ochr yma i'r Iorddonen.”

33. Rhoddodd Moses i dylwyth Gad a thylwyth Reuben, ac i hanner llwyth Manasse fab Joseff, deyrnas Sihon brenin yr Amoriaid, a theyrnas Og brenin Basan, yn cynnwys holl ddinasoedd y wlad a'u tiriogaethau oddi amgylch.

34. Adeiladodd tylwyth Gad Dibon, Ataroth, Aroer,

35. Atroth-soffan, Jaser, Jogbeha,

Numeri 32