Numeri 2:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Nahson fab Amminadab fydd arweinydd pobl Jwda, a nifer ei lu yn saith deg pedair o filoedd a chwe chant.

5. Llwyth Issachar fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Nethanel fab Suar fydd arweinydd pobl Issachar,

6. a nifer ei lu yn bum deg pedair o filoedd a phedwar cant.

7. Yna llwyth Sabulon; Eliab fab Helon fydd arweinydd pobl Sabulon,

8. a nifer ei lu yn bum deg saith o filoedd a phedwar cant.

9. Cyfanswm gwersyll Jwda, yn ôl eu minteioedd, fydd cant wyth deg chwech o filoedd a phedwar cant. Hwy fydd y rhai cyntaf i gychwyn ar y daith.

Numeri 2