Numeri 15:27-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. “ ‘Os bydd unigolyn yn pechu'n anfwriadol, y mae i offrymu gafr flwydd yn aberth dros bechod.

28. Bydd yr offeiriad yn gwneud cymod gerbron yr ARGLWYDD dros yr un a bechodd yn anfwriadol mewn camgymeriad, ac fe faddeuir iddo.

29. Pan fydd rhywun yn gwneud rhywbeth yn anfwriadol, yna yr un gyfraith a weithredir p'run bynnag a yw'n frodor o Israel neu'n ddieithryn sy'n byw yn eu plith.

30. Ond pan fydd rhywun yn gweithredu'n rhyfygus, boed yn frodor neu'n ddieithryn, y mae'n cablu yn erbyn yr ARGLWYDD, ac fe'i torrir ymaith o blith ei bobl.

Numeri 15