Nehemeia 13:18-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Onid dyma a wnaeth eich hynafiaid fel y daeth ein Duw â'r holl ddrwg hwn arnom ni ac ar y ddinas hon? Yr ydych yn dod â mwy eto o lid ar Israel trwy halogi'r Saboth.”

19. Yna, cyn dechrau'r Saboth, fel yr oedd yn nosi dros byrth Jerwsalem, gorchmynnais gau'r drysau, ac nad oedd neb i'w hagor cyn diwedd y Saboth. A gosodais rai o'm llanciau wrth y pyrth fel na châi dim ei gario i mewn ar y dydd Saboth.

20. Unwaith neu ddwy gwersyllodd y masnachwyr a gwerthwyr pob math o nwyddau y tu allan i Jerwsalem,

21. ond rhybuddiais hwy a dweud, “Pam yr ydych yn gwersyllu yn ymyl y mur? Os gwnewch hyn eto fe'ch cosbaf chwi.” O'r dydd hwnnw ymlaen ni ddaethant ar y Saboth.

22. A gorchmynnais i'r Lefiaid eu puro eu hunain a dod i wylio'r pyrth, er mwyn cadw'r dydd Saboth yn sanctaidd. Am hyn hefyd cofia fi, fy Nuw, ac arbed fi yn dy drugaredd fawr.

23. Yn y dyddiau hynny hefyd gwelais fod rhai Iddewon wedi priodi merched o Asdod, Ammon a Moab.

24. Yr oedd hanner eu plant yn siarad iaith Asdod, heb fedru siarad iaith yr Iddewon, a'r lleill yn siarad tafodiaith gymysg.

25. Ceryddais hwy a'u melltithio, a tharo rhai ohonynt a thynnu eu gwallt; gwneuthum iddynt gymryd llw yn enw Duw i beidio â rhoi eu merched i feibion yr estron, na chymryd eu merched hwy i'w meibion nac iddynt eu hunain.

Nehemeia 13