Nehemeia 12:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. o Joiarib, Matenai; o Jedaia, Ussi;

20. o Salai, Calai; o Amoc, Eber;

21. o Hilceia, Hasabeia; o Jedaia, Nethaneel.

22. Yn nyddiau Eliasib yr oedd y Lefiaid, sef Joiada, Johanan a Jadua, a'r offeiriaid wedi eu cofrestru fel pennau-teuluoedd hyd at deyrnasiad Dareius y Persiad.

23. Yr oedd pennau-teuluoedd y Lefiaid wedi eu cofrestru yn llyfr y Cronicl hyd at amser Johanan fab Eliasib.

24. Arweinwyr y Lefiaid oedd: Hasabeia, Serebeia, Jesua fab Cadmiel a'u brodyr, oedd yn cymryd eu tro i foliannu a thalu diolch yn ôl gorchymyn Dafydd gŵr Duw, ac i gadw cylch y gwasanaethau.

Nehemeia 12