Nehemeia 11:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Ac yr oedd Pethaheia fab Mesesabeel o deulu Sera fab Jwda yn cynghori'r brenin ar unrhyw fater yn ymwneud â'r bobl.

25. Ynglŷn â'r pentrefi yn y wlad: aeth rhai o lwyth Jwda i fyw yng Ciriath-arba a'i phentrefi, yn Dibon a'i phentrefi, yn Jecabseel a'i phentrefi;

26. yn Jesua, yn Molada, yn Beth-pelet,

27. yn Hasar-sual, yn Beerseba a'i phentrefi;

Nehemeia 11