Mathew 9:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Ac yr oedd wrth bryd bwyd yn ei dŷ, a dyma lawer o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid yn dod ac yn cydfwyta gyda Iesu a'i ddisgyblion.

11. A phan welodd y Phariseaid, dywedasant wrth ei ddisgyblion, “Pam y mae eich athro yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?”

12. Clywodd Iesu, a dywedodd, “Nid ar y cryfion ond ar y cleifion y mae angen meddyg.

13. Ond ewch a dysgwch beth yw ystyr hyn, ‘Trugaredd a ddymunaf, nid aberth’. Oherwydd i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.”

Mathew 9