Mathew 5:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Dechreuodd eu hannerch a'u dysgu fel hyn:

3. “Gwyn eu byd y rhai sy'n dlodion yn yr ysbryd,oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.

4. Gwyn eu byd y rhai sy'n galaru,oherwydd cânt hwy eu cysuro.

5. Gwyn eu byd y rhai addfwyn,oherwydd cânt hwy etifeddu'r ddaear.

6. Gwyn eu byd y rhai sy'n newynu a sychedu am gyfiawnder,oherwydd cânt hwy eu digon.

7. Gwyn eu byd y rhai trugarog,oherwydd cânt hwy dderbyn trugaredd.

Mathew 5