Mathew 24:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. “yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd.

17. Y sawl sydd ar ben y tŷ, peidied â mynd i lawr i gipio'i bethau o'i dŷ;

18. a'r sawl sydd yn y cae, peidied â throi yn ei ôl i gymryd ei fantell.

19. Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny!

20. A gweddïwch na fyddwch yn gorfod ffoi yn y gaeaf nac ar y Saboth,

Mathew 24