Mathew 21:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. “Dywedwch wrth ferch Seion,‘Wele dy frenin yn dod atat,yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn,ac ar ebol, llwdn anifail gwaith.’ ”

6. Aeth y disgyblion a gwneud fel y gorchmynnodd Iesu iddynt;

7. daethant â'r asen a'r ebol ato, a rhoesant eu mentyll ar eu cefn, ac eisteddodd Iesu arnynt.

8. Taenodd tyrfa fawr iawn eu mentyll ar y ffordd, ac yr oedd eraill yn torri canghennau o'r coed ac yn eu taenu ar y ffordd.

9. Ac yr oedd y tyrfaoedd ar y blaen iddo a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi:“Hosanna i Fab Dafydd!Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.Hosanna yn y goruchaf!”

10. Pan ddaeth ef i mewn i Jerwsalem cynhyrfwyd y ddinas drwyddi. Yr oedd pobl yn gofyn, “Pwy yw hwn?”,

Mathew 21