Mathew 14:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Oherwydd yr oedd Herod wedi dal Ioan a'i roi yn rhwym yng ngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd.

4. Yr oedd Ioan wedi dweud wrtho, “Nid yw'n gyfreithlon i ti ei chael hi.”

5. Ac er bod Herod yn dymuno ei ladd, yr oedd arno ofn y bobl, am eu bod yn ystyried Ioan yn broffwyd.

6. Pan oedd Herod yn dathlu ei ben-blwydd, dawnsiodd merch Herodias gerbron y cwmni a phlesio Herod

7. gymaint nes iddo addo ar ei lw roi iddi beth bynnag a ofynnai.

Mathew 14