Mathew 12:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Ni fydd yn ymrafael nac yn gweiddi,ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.

20. Ni fydd yn mathru corsen doredig,nac yn diffodd cannwyll sy'n mygu,nes iddo ddwyn barn i fuddugoliaeth.

21. Ac yn ei enw ef y bydd gobaith y Cenhedloedd.”

22. Yna dygwyd ato ddyn â chythraul ynddo, yn ddall a mud; iachaodd Iesu ef, nes bod y mudan yn llefaru ac yn gweld.

23. A synnodd yr holl dyrfaoedd a dweud, “A yw'n bosibl mai hwn yw Mab Dafydd?”

Mathew 12