Mathew 10:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ewch yn hytrach at ddefaid colledig tŷ Israel.

7. Ac wrth fynd cyhoeddwch y genadwri: ‘Y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.’

8. Iachewch y cleifion, cyfodwch y meirw, glanhewch y gwahanglwyfus, bwriwch allan gythreuliaid; derbyniasoch heb dâl, rhowch heb dâl.

9. Peidiwch â chymryd aur nac arian na phres yn eich gwregys,

10. na chod i'r daith nac ail grys na sandalau na ffon. Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei fwyd.

11. I ba dref neu bentref bynnag yr ewch, holwch pwy sy'n deilwng yno, ac arhoswch yno hyd nes y byddwch yn ymadael â'r ardal.

Mathew 10