Marc 15:33-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. A phan ddaeth yn hanner dydd, bu tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn.

34. Ac am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, “Eloï, Eloï, lema sabachthani”, hynny yw, o'i gyfieithu, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?”

35. O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll gerllaw, “Clywch, y mae'n galw ar Elias.”

Marc 15