Marc 15:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. A dechreusant ei gyfarch: “Henffych well, Frenin yr Iddewon!”

19. Curasant ei ben â gwialen, a phoeri arno, a phlygu eu gliniau ac ymgrymu iddo.

20. Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y porffor oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun. Yna aethant ag ef allan i'w groeshoelio.

Marc 15