Marc 14:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Ar ddydd cyntaf gŵyl y Bara Croyw, pan leddid oen y Pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, “I ble yr wyt ti am inni fynd i baratoi i ti, i fwyta gwledd y Pasg?”

13. Ac anfonodd ddau o'i ddisgyblion, ac meddai wrthynt, “Ewch i'r ddinas, ac fe ddaw dyn i'ch cyfarfod, yn cario stenaid o ddŵr. Dilynwch ef,

14. a dywedwch wrth ŵr y tŷ lle'r â i mewn, ‘Y mae'r Athro'n gofyn, “Ble mae f'ystafell, lle yr wyf i fwyta gwledd y Pasg gyda'm disgyblion?” ’

15. Ac fe ddengys ef i chwi oruwchystafell fawr wedi ei threfnu'n barod; yno paratowch i ni.”

16. Aeth y disgyblion ymaith, a daethant i'r ddinas a chael fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt, a pharatoesant wledd y Pasg.

17. Gyda'r nos daeth yno gyda'r Deuddeg.

Marc 14