Marc 10:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Ac meddai wrthynt, “Pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig ac yn priodi un arall, y mae'n godinebu yn ei herbyn hi;

12. ac os bydd iddi hithau ysgaru ei gŵr a phriodi un arall, y mae hi'n godinebu.”

13. Yr oeddent yn dod â phlant ato, iddo gyffwrdd â hwy. Ceryddodd y disgyblion hwy,

14. ond pan welodd Iesu hyn aeth yn ddig, a dywedodd wrthynt, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi; peidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn.

15. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid â byth i mewn iddi.”

Marc 10