Marc 1:39-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

39. Ac fe aeth drwy holl Galilea gan bregethu yn eu synagogau hwy a bwrw allan gythreuliaid.

40. Daeth dyn gwahanglwyfus ato ac erfyn arno ar ei liniau a dweud, “Os mynni, gelli fy nglanhau.”

41. A chan dosturio estynnodd ef ei law a chyffwrdd ag ef a dweud wrtho, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.”

42. Ymadawodd y gwahanglwyf ag ef ar unwaith, a glanhawyd ef.

43. Ac wedi ei rybuddio'n llym gyrrodd Iesu ef ymaith ar ei union,

Marc 1