Luc 9:52-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

52. ac anfonodd allan negesyddion o'i flaen. Cychwynasant, a mynd i mewn i bentref yn Samaria i baratoi ar ei gyfer.

53. Ond gwrthododd y bobl ei dderbyn am ei fod ar ei ffordd i Jerwsalem.

54. Pan welodd ei ddisgyblion, Iago ac Ioan, hyn, meddent, “Arglwydd, a fynni di inni alw tân i lawr o'r nef a'u dinistrio?”

55. Ond troes ef a'u ceryddu.

56. Ac aethant i bentref arall.

57. Pan oeddent ar y ffordd yn teithio, meddai rhywun wrtho, “Canlynaf di lle bynnag yr ei.”

Luc 9