Luc 9:49-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

49. Atebodd Ioan, “Meistr, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a buom yn ei wahardd am nad yw'n dy ddilyn gyda ni.”

50. Ond meddai Iesu wrtho, “Peidiwch â gwahardd, oherwydd y sawl nad yw yn eich erbyn, drosoch chwi y mae.”

51. Pan oedd y dyddiau cyn ei gymryd i fyny yn dirwyn i ben, troes ef ei wyneb i fynd i Jerwsalem,

52. ac anfonodd allan negesyddion o'i flaen. Cychwynasant, a mynd i mewn i bentref yn Samaria i baratoi ar ei gyfer.

Luc 9