Luc 9:38-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. A dyma ddyn yn gweiddi o'r dyrfa, “Athro, rwy'n erfyn arnat edrych ar fy mab, gan mai ef yw fy unig fab.

39. Y mae ysbryd yn gafael ynddo ac â bloedd sydyn yn ei gynhyrfu nes ei fod yn malu ewyn; ac y mae'n dal i'w ddirdynnu yn ddiollwng bron.

40. Erfyniais ar dy ddisgyblion ei fwrw allan, ac ni allasant.”

Luc 9