Luc 9:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i ceidw.

25. Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a'i ddifetha neu ei fforffedu ei hun?

26. Oherwydd pwy bynnag y bydd arnynt gywilydd ohonof fi ac o'm geiriau, bydd ar Fab y Dyn gywilydd ohonynt hwythau, pan ddaw yn ei ogoniant ef a'i Dad a'r angylion sanctaidd.

27. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld teyrnas Dduw.”

Luc 9