Luc 7:38-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. a sefyll y tu ôl iddo wrth ei draed gan wylo. Yna dechreuodd wlychu ei draed â'i dagrau a'u sychu â gwallt ei phen; ac yr oedd yn cusanu ei draed ac yn eu hiro â'r ennaint.

39. Pan welodd hyn dywedodd y Pharisead oedd wedi ei wahodd wrtho'i hun, “Pe bai hwn yn broffwyd, byddai'n gwybod pwy yw'r wraig sy'n cyffwrdd ag ef, a sut un yw hi. Pechadures yw hi.”

40. Atebodd Iesu ef, “Simon, y mae gennyf rywbeth i'w ddweud wrthyt.” Meddai yntau, “Dywed, Athro.”

41. “Yr oedd gan fenthyciwr arian ddau ddyledwr,” meddai Iesu. “Pum cant o ddarnau arian oedd dyled un, a hanner cant oedd ar y llall.

Luc 7