Luc 6:44-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

44. Wrth ei ffrwyth ei hun y mae pob coeden yn cael ei hadnabod; nid oddi ar ddrain y mae casglu ffigys, ac nid oddi ar lwyni mieri y mae tynnu grawnwin.

45. Y mae'r dyn da yn dwyn daioni o drysor daionus ei galon, a'r dyn drwg yn dwyn drygioni o'i ddrygioni; oherwydd yn ôl yr hyn sy'n llenwi ei galon y mae ei enau yn llefaru.

46. “Pam yr ydych yn galw ‘Arglwydd, Arglwydd’ arnaf, a heb wneud yr hyn yr wyf yn ei ofyn?

Luc 6