Luc 24:39-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

39. Gwelwch fy nwylo a'm traed; myfi yw, myfi fy hun. Cyffyrddwch â mi a gwelwch, oherwydd nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn fel y canfyddwch fod gennyf fi.”

40. Wrth ddweud hyn dangosodd iddynt ei ddwylo a'i draed.

41. A chan eu bod yn eu llawenydd yn dal i wrthod credu ac yn rhyfeddu, meddai wrthynt, “A oes gennych rywbeth i'w fwyta yma?”

42. Rhoesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio.

43. Cymerodd ef, a bwyta yn eu gŵydd.

Luc 24