Luc 23:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Ac meddai Pilat wrth y prif offeiriaid a'r tyrfaoedd, “Nid wyf yn cael dim trosedd yn achos y dyn hwn.”

5. Ond dal i daeru yr oeddent: “Y mae'n cyffroi'r bobl â'i ddysgeidiaeth, trwy Jwdea gyfan. Dechreuodd yng Ngalilea, ac y mae wedi cyrraedd hyd yma.”

6. Pan glywodd Pilat hyn, gofynnodd ai Galilead oedd y dyn;

7. ac wedi deall ei fod dan awdurdod Herod, cyfeiriodd yr achos ato, gan fod Herod yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.

8. Pan welodd Herod Iesu, mawr oedd ei lawenydd; bu'n awyddus ers amser hir i'w weld, gan iddo glywed amdano, ac yr oedd yn gobeithio ei weld yn cyflawni rhyw wyrth.

Luc 23