Luc 23:39-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

39. Yr oedd un o'r troseddwyr ar ei groes yn ei gablu gan ddweud, “Onid ti yw'r Meseia? Achub dy hun a ninnau.”

40. Ond atebodd y llall, a'i geryddu: “Onid oes arnat ofn Duw, a thithau dan yr un ddedfryd?

41. I ni, y mae hynny'n gyfiawn, oherwydd haeddiant ein gweithredoedd sy'n dod inni. Ond ni wnaeth hwn ddim o'i le.”

Luc 23