Luc 20:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Edrychodd ef arnynt a dweud, “Beth felly yw ystyr yr Ysgrythur hon:“ ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,hwn a ddaeth yn faen y gongl’?

18. “Pawb sy'n syrthio ar y maen hwn, fe'i dryllir; pwy bynnag y syrth y maen arno, fe'i maluria.”

19. Ceisiodd yr ysgrifenyddion a'r prif offeiriaid osod dwylo arno y pryd hwnnw, ond yr oedd arnynt ofn y bobl, oherwydd gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddameg hon.

Luc 20