Luc 19:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Galwodd ato ddeg o'i weision a rhoi darn aur bob un iddynt, gan ddweud wrthynt, ‘Ewch i fasnachu nes imi ddychwelyd.’

14. Ond yr oedd ei ddeiliaid yn ei gasáu, ac anfonasant lysgenhadon ar ei ôl i ddatgan: ‘Ni fynnwn hwn yn frenin arnom.’

15. Ond dychwelodd ef wedi ei wneud yn frenin, a gorchmynnodd alw ato y gweision hynny yr oedd wedi rhoi'r arian iddynt, i gael gwybod pa lwyddiant yr oeddent wedi ei gael.

16. Daeth y cyntaf ato gan ddweud, ‘Meistr, y mae dy ddarn aur wedi ennill ato ddeg darn arall.’

Luc 19