Luc 17:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Dywedant wrthych, ‘Dacw ef’, neu ‘Dyma ef’; peidiwch â mynd, peidiwch â rhedeg ar eu hôl.

24. Oherwydd fel y fellten sy'n fflachio o'r naill gwr o'r nef hyd y llall, felly y bydd Mab y Dyn yn ei ddydd ef.

25. Ond yn gyntaf y mae'n rhaid iddo ddioddef llawer, a chael ei wrthod gan y genhedlaeth hon.

26. Ac fel y bu hi yn nyddiau Noa, felly hefyd y bydd hi yn nyddiau Mab y Dyn:

27. yr oedd pobl yn bwyta, yn yfed, yn cymryd gwragedd, yn cael gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i'r arch ac y daeth y dilyw a difa pawb.

28. Fel y bu hi yn nyddiau Lot: yr oedd pobl yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu;

Luc 17